Hamid Karzai
Mae Arlywydd Afghanistan wedi condemnio fideo lle mae’n ymddangos bod milwyr Llynges yr Unol Daleithiau yn pasio dŵr ar gyrff meirw’r Taliban.

Mewn datganiad, mae Hamid Karzai wedi galw ar yr Unol Daleithiau i gosbi’r milwyr sy’n gyfrifol am y digwyddiad.

Mae’r Llynges eisoes wedi dweud eu bod yn ymchwilio i’r fideo YouTube ond wedi dweud nad ydyn nhw wedi dilysu tarddiad neu ddilysrwydd y fideo eto.

Fe fydd yr achos nawr yn cael ei drosglwyddo i Wasanaeth Ymchwilio Trosedd y Llynges.

Fe ddywedodd y Seneddwr John McCain, cyn-filwr y Llynges a fu’n ymladd yn rhyfel Fietnam, fod y digwyddiad yn ei “dristhau”.

Dywedodd bod y digwyddiad wedi gwneud niwed i enw da’r Llynges.

Dywedodd wrth CBS: “Dylai fod ymchwiliad a dylai’r bobl ifanc hyn gael eu cosbi.”

Mae Gweinyddiaeth Amddiffyn Afghanistan wedi disgrifio’r gweithredoedd fel rhai sy’n  “codi braw”.