Mae Llynges yr Unol Daleithiau wedi dweud eu bod yn ymchwilio i fideo sy’n dangos pedwar milwr yn gollwng dwr ar gyrff meirw gwrthryfelwyr y Taliban.
Mewn datganiad, mae’r Llynges wedi dweud nad ydyn nhw wedi dilysu tarddiad neu ddilysrwydd y fideo YouTube eto.
Maen nhw hefyd wedi dweud nad yw’r gweithredoedd yn y fideo yn portreadu “gwerthoedd” y Llynges.
Os yw’r fideo yn cael ei ddilysu, gallai greu adwaith cryf yn y byd Mwslemaidd a thu hwnt gyda’r gweithredoedd amharchus y mae’n portreadu.
Fe fydd yr achos nawr yn cael ei basio i Wasanaeth Ymchwilio Trosedd y Llynges.
Mae’r Cyngor Cysylltiadau Islamaidd-Americanaidd, grŵp hawliau sifil Mwslemaidd amlwg sydd wedi’i leoli yn Washington, wedi condemnio’r fideo.
Ychwanegodd llefarydd ar ran y Llynges, Is-gyrnol Stewart Upton: “Mae honiadau o filwyr y llynges sydd ddim yn gwneud y peth cywir gyda chyrff gwrthryfelwyr Taliban yn ddifrifol iawn. Os yw’n cael ei brofi, mae’n cynrychioli methiant i gadw at y safonau uchel a ddisgwylir o bersonél milwrol Americanaidd,” meddai.
Yn ôl llefarydd ar ran y Pentagon, Capten Llynges John Kirby, mae’r fideo yn “peri pryder mawr.”
Nid yw’n glir pwy wnaeth ffilmio’r fideo na phwy bostiodd y fideo ar-lein.