Mae Burma wedi dechrau trafodaethau heddwch gyda grŵp gwrthryfelwyr ethnig  heddiw i geisio dod ag  anghydfod hir i ben.

Mae aelodau pwyllgor heddwch y llywodraeth yn cyfarfod heddiw ag arweinwyr o Undeb Cenedlaethol Karen yn Karen, Pa-yn.

Roedd newyddiadurwyr yn cael bod yn bresennol yn y trafodaethau, sy’n rhan o ymdrechion y llywodraeth i ddad-ynysu’r wlad yn rhyngwladol.

Mae dod a’r rhyfel yn erbyn gwrthryfelwyr ethnig i ben yn un o’r amodau a osodwyd gan wledydd  y Gorllewin ar gyfer cysylltiadau gwell.

Mae gwrthryfelwyr Karen wedi bod yn ymladd dros reolaeth ers degawdau. Dyma’r unig grŵp mawr sydd heb ddod i gytundeb heddwch.

Mae’r llywodraeth wedi cyd-drafod gyda 17 o grwpiau arfog eraill ers 1989.