Mitt Romney a'i wraig Ann
Mae Mitt Romney wedi hawlio buddugoliaeth yn etholiad y Gweriniaethwyr yn New Hampshire, sy’n golygu ei fod gam yn nes at gael ei ddewis i gynrychioli ei blaid i herio’r Arlywydd Barack Obama ym mis Tachwedd.

Mae’r canlyniadau’n dangos bod Mitt Romney wedi ennill 38% o’r bleidlais – mae’n dilyn buddugoliaeth o drwch blewyn yn Iowa wythnos diwethaf.

Ond mae’n debyg y bydd cyn lywodraethwr Massachusetts yn wynebu her yn etholiad De Carolina ar 21 Ionawr.