Yn India, mae llewpard oedd wedi crwydro i mewn i ddinas yn nwyrain y wlad, wedi lladd un dyn, ac anafu pedwar o bobl eraill cyn i’r awdurdodau ei dawelu.

Yn ôl trigolion lleol yn Gauhati, roedd y llewpard wedi ymosod ar gyfreithiwr 50 oed wrth iddo siarad ar ei ffôn symudol tu allan i’w gartref. Cafodd ei gludo i’r ysbyty ond bu farw’n ddiweddarach.

Cafodd pedwar o rai eraill eu hanafu – mae un  dyn wedi cael anafiadau difrifol i’w ben.

Dywedodd swyddog bywyd gwyllt Gauhati, Utpal  Bora bod yr awdurdodau wedi bwriadu rhyddhau’r anifail mewn parc bywyd gwyllt tua 120 o filltiroedd i’r dwyrain o’r ddinas.

Ond dywed cadwriaethwyr bod datgoedwigo yn golygu bod llewpardiaid yn gynyddol  yn cael eu gwthio i ardaloedd mwy poblog.