Mario Monti
Mae Prif Weinidog yr Eidal wedi rhybuddio nad oes yr un wlad yn Ewrop yn ddigon cryf i oroesi argyfwng dyled y cyfandir ar ei phen ei hun.
Mae wedi annog arweinwyr eraill yr Undeb Ewropeaidd i ddatblygu polisi ar y cyd a fydd yn arwain at dwf yn economïau pob un ohonyn nhw.
Cafodd yr economegydd Mario Monti ei benodi yn brif weinidog ym mis Tachwedd er mwyn achub y wlad o ymyl y dibyn.
“Mae angen Ewrop ar yr Eidal, er mwyn datblygu’n economaidd ac yn gymdeithasol, ac mae angen yr Eidal ar Ewrop hefyd,” meddai.
“Does yr un wlad Ewropeaidd yn ddigon cryf i oroesi ar ei phen ei hun. Mae angen i Ewrop greu polisïau ar y cyd a’u rhoi ar waith er mwyn sicrhau twf a sefydlogrwydd ariannol.
“Mae’r Eidal yn gwneud cyfraniad pendant tuag at sefydlogrwydd parth yr ewro. Nawr mae’n bryd i bob gwlad wneud eu gwaith cartref.
“Nid yw’n bosib i un aelod feddwl ei fod yn gallu gwneud llai na’r lleill. Yr unig fodd i oresgyn r argyfwng ydi i bob gwlad gydweithio.