Mae dogfennau ym meddiant gwefan WikiLeaks yn honni bod Libya wedi cael cyngor gan weinidog yn Llywodraeth San Steffan er mwyn rhyddhau bomiwr Lockerbie.


Abdelbaset al-Megrahi
Ac mae papurau yn yr Alban yn awgrymu bod tystiolaeth o ddealltwriaeth rhwng y Llywodraeth yn yr Alban a Llywodraeth Lafur San Steffan – er bod honno’n gwadu unrhyw ran yn y penderfyniad.

Mae papur y Daily Telegraph, sydd wedi gweld y dogfennau, yn dweud bod gweinidog yn y swyddfa dramor ar y pryd, Bill Rammell wedi anfon cyngor cyfreithiol i Libya yn dweud wrthyn nhw sut i ddefnyddio’r ffaith bod Abdelbaset al-Megrahi yn dioddef o ganser.

Fe gafodd y llythyr ei anfon o fewn wythnosau ar ôl y diagnosis yn amlinellu’r drefn i sicrhau bod y bomiwr yn cael ei ryddhau ar sail trugaredd.

Mae’r papur hefyd yn honni bod swyddogion Libya wedi dilyn y cyngor yn agos gan sicrhau bod Abdelbaset al-Megrahi yn cael ei ryddhau ym mis Awst 2009.

Y dogfennau

Mae’r honiadau’n cael eu cynnwys mewn mwy na 480 o ddogfennau o’r Unol Daleithiau sy’n ymwneud â Libya ac sydd wedi mynd i ddwylo WikiLeaks.

Roedd Llywodraeth Lafur ar y pryd wedi gwadu unrhyw ran yn y penderfyniad i ryddhau’r bomiwr gan honni mai cyfrifoldeb Llywodraeth yr Alban oedd hynny.

Roedd amheuon wedi eu codi bod Llundain wedi ymyrryd er mwyn ceisio sicrhau cytundebau masnachol gyda Libya.

Y cefndir

Abdelbaset al-Megrahi yw’r unig berson erioed i gael ei ddedfrydu dros y trychineb lle bu farw 270 o bobl ar ôl i Awyren Pan Am 103 chwalu uwchben Lockerbie ar 21 Rhagfyr 1988.

Roedd e wedi gwadu ei ran yn y trychineb ond fe ddaeth ei hawl i apelio i ben wrth iddo gael ei ryddhau.

Mae’r bomiwr yn parhau i fod yn fyw 16 mis ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar er gwaethaf amcangyfrifon meddygon ar y pryd y byddai’n marw o fewn tri mis.