Hosni Mubarak (Llun gan Fforwm Economaidd y Byd)
Mae disgwyl cynyddol o amgylch y byd y bydd Arlywydd yr Aifft Hosni Mubarak yn cael ei orfodi i fynd o fewn y dyddiau nesa’.

Gyda phrotestwyr yn galw am weld miliwn o bobol ar strydoedd y wlad heddiw, mae’r fyddin wedi gwneud yn glir na fyddan nhw’n troi ar y gwrthdystwyr.

Dyw ymgais yr Arlywydd i newid ei lywodraeth ddim wedi gweithio chwaith, gyda’r protestwyr yng nghanol y brifddinas, Cairo, yn dweud mai’r unig ateb yw bod yr Arlywydd ei hun yn mynd.

Roedd yna arwydd pellach o newid ddoe, wrth i’r Dirprwy Arlywydd newydd, Omar Suleiman, gynnig trafod gyda charfannau gwleidyddol eraill.

Annog newid trefnus

Yn y cyfamser, mae gwledydd y Gorllewin yn parhau i annog newid trefnus, gyda Phrif Weinidog Prydain, David Cameron, yn ffonio’r Arlywydd Mubarak i rybuddio na fyddai’n gweithio i geisio sathru ar y protestiadau.

Mae dinasyddion Prydeinig sydd yn yr Aifft yn cael cyngor i gadw’n glir o’r protestiadau ond does dim argymhelliad hyd yma iddyn nhw adael.