Mae Arlywydd Rwsia, Dmitry Medvedev, wedi gorchymyn ymchwiliad i’r honiadau fod twyll wedi digwydd yn ystod yr etholiadau seneddol diweddar.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i filoedd o bobl ymgynnull ar ynys ger y Kremlin ym Moscow ddoe i ddangos eu hanfodlonrwydd ynglŷn â’r ffordd y cafodd yr etholiadau eu gweinyddu, ac i ddangos eu hanfodlonrwydd â’r Prif Weinidog, Vladimir Putin.

Mi wnaeth parti Mr Putin, Rwsia Unedig, ennill yr etholiad, ond mae nifer yn amau eu bod wedi ennill trwy dwyll.