Daeth cadarnhad heddiw fod y Taliban ym Mhakistan wedi bod yn trafod heddwch gyda llywodraeth y wlad.

Dywedodd Maulvi Faqir Mohammad, dirpwy gomander y Taliban yn y wlad, fod y trafod wedi canolbwyntio ar yr ardal lwythol Bajaur ar y ffin ag Afghanistan. Os yw’r trafodaethau’n llwyddiannus fe allen nhw gael eu hymestyn i ardaloedd eraill, meddai.

Dywedodd fod 145 o garcharorion Taliban wedi cael eu rhyddhau fel arwydd o ewyllys da ac roedd yr awdurdodau yn awyddus i gael cadoediad.

Dyw llywodraeth Pakistan ddim wedi gwneud unrhyw sylw ar y mater.