Pablo Neruda
Fe fydd barnwr yn Chile yn ystyried cais i ymchwilio i farwolaeth un o feirdd mwya’r byd.

Fe fu Pablo Neruda farw yn ystod y cyfnod o ormes dan y Cadfridog Pinochet ac mae Plaid Gomiwnyddol y wlad yn honni ei fod wedi’i lofruddio.

Yn ôl y blaid, fe fydd yr honiad yn rhan o waith barnwr sy’n ymchwilio i’r holl farwolaethau amheus yn ystod cyfnod Pinochet rhwng 1973 ac 1990.

Roedd Pablo Neruda, a enillodd y Wobr Nobel am lenyddiaeth yn 1971, wedi marw mewn clinig yn y brifddinas Santiago ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Sail yr honiad yw tystiolaeth ei yrrwr, sy’n dweud bod y bardd wedi ffonio’i wraig ddydd ei farwolaeth yn dweud bod meddyg newydd roi chwistrelliad iddo.