Jacques Chirac
Mae gwraig cyn-arlywydd Ffrainc, Jacques Chirac, wedi dweud ei fod yn ddigon iach i wynebu llys ar amheuaeth o greu swyddi ffug ar gyfer ei gefnogwyr yn ystod ei gyfnod yn faer Paris.

Roedd adroddiadau yn y wasg yn Ffrainc yn awgrymu y byddai Jacques Chirac yn rhy sâl i gymryd rhan yn yr achos llys a fydd yn dechrau ar 7 Mawrth.

Ond dywedodd Bernadette Chirac wrth radio Europe1 fod ei gŵr yn teimlo’n ddigon da i gymryd rhan.

“Mae o’n 78 oed ac yn cael trafferth cerdded weithiau. Mae’n cael trafferth cofio pethau weithiau, ac mae’n fyr ei amynedd, ond dyw hynny’n ddim byd newydd!” meddai.

“Os oes ganddo Alzheimer’s, fe fyddwn i’n gwybod ac yn fodlon trafod y peth.”

Jacques Chirac fydd y cyn-arlywydd cyntaf i wynebu achos llys. Mae dan amheuaeth o roi swyddi yn Neuadd y Ddinas i bobol oedd yn gweithio i’w blaid Rassemblement pour la République.

Roedd Jacques Chirac yn faer ar Baris am ddau gyfnod rhwng 1977 a 1995.