Mohamed ElBaradei
Mae arweinwyr gwledydd y Gorllewin wedi dechrau rhoi pwysau ar Arlywydd yr Aifft i arwain newid at lywodraeth fwy democrataidd.

Neithiwr, fe fu Prif Weinidog Prydain, David Cameron, ac Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, yn sgwrsio ar y ffôn cyn galw am “newid trefnus” yn yr Aifft.

Neithiwr hefyd roedd yna arwyddion bod Hosni Mubarak yn ymateb gyda darllediad ar y teledu yn gofyn i’w Brif Weinidog ddechrau ar ddiwygiadau.

Ond mae’r protestiadau’n parhau yng nghanol y brifddinas Cairo ac mewn nifer o ddinasoedd eraill yn yr Aifft, a hynny wythnos ers dechrau.

Ac fe allai pethau ffyrnigo eto wrth i’r Arlywydd Mubarak anfon yr heddlu i’r strydoedd eto – nhw oedd yn rhan o’r gwrthdaro cynta’ gyda’r protestwyr.

Hague a Clinton yn galw am newid

Mae’r ddau Ysgrifennydd Tramor yn Llundain a Washington hefyd wedi galw ar Hosni Mubarak i ddechrau’r broses o ddiwygio’i lywodraeth.

Dyna fyddai’r ateb gorau, yn ôl Ysgrifennydd Tramor Prydain, William Hague, ac roedd angen osgoi “faciwm grym”, meddai Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Hillary Clinton.

Roedd yna ddatganiad tebyg gan arweinyddion Ffrainc a’r Almaen, Nicolas Sarkozy ac Angela Merkel, ac fe fydd gweinidogion tramor yr Undeb Ewropeaidd yn trafod yr helynt heddiw.

Mwy na 100 wedi marw

Y gred yw bod mwy na 100 o bobol bellach wedi eu lladd yn y gwrthdaro rhwng protestwyr a’r heddlu ac mewn achosion o ysbeilio ac ymosod ar siopau. Roedd gangiau wedi ymosod ar bedwar carchar hefyd a rhyddhau’r carcharorion.

Mae ffocws y gwrthdystio wedi cryfhau ers i un o’r gwleidyddion amlyca’ sy’n gwrthwynebu Mubarak, Mohamed ElBaradei, ddychwelyd i’r Aifft ac annerch y protestwyr yn Sgwâr Tahrir.

Un o ofnau mawr gwledydd y Gorllewin yw y bydd mudiad Islamaidd eithafol, y Frawdoliaeth Foslemaidd, yn cipio grym yn yr Aifft, sy’n cael ei hystyried yn bartner allweddol yn y Dwyrain Canol.

Llun: Mohamed ElBaradei mewn cynhadledd yn 2009  (Harald Detternborn CCA 3.0)