Joe Frazier Llun: Facebook
Mae’r cyn-bencampwr pwysau trwm Joe Frazier wedi marw o ganser, meddai ei deulu.

Roedd yr Americanwr wedi cymryd rhan yn yr ornest enwog Thrilla in Manila yn erbyn Muhammad Ali yn ystod ei yrfa ddisglair.

Roedd y bocsiwr 67 oed wedi derbyn llu o negeseuon gan gyn-focswyr eraill a’i genfogwyr cyn ei farwolaeth.

Roedd Joe Frazier wedi cael gwybod fis diwethaf ei fod yn dioddef o ganser yr iau ac wedi body n cael triniaeth yn yr ysbyty ers hynny.