Michael Jackson
Mae meddyg personol Michael Jackson wedi ei gael yn euog o ddynladdiad anfwriadol mewn llys yn Los Angeles.

Roedd Dr Conrad Murray wedi ei gael yn euog o roi gor-ddos o anesthetig i’r canwr oedd wedi arwain at ei farwolaeth.

Roedd teulu Michael Jackson yn y llys i glywed y dyfarniad – roedd rhai, gan gynnwys ei chwaer LaToya, yn eu dagrau pan gafodd y dyfarniad ei gyhoeddi.

Dywedodd ei fam Katherine Jackson yn ddiweddarach: “Dwi’n teimlo’n well rwan.”

Dywedodd LaToya ei bod ar ben ei digon. Roedd na floedd gan gannoedd o gefnogwyr Michael Jackson oedd yn aros tu allan i’r llys.

Fe fydd Murray, 58, yn cael ei ddedfrydu ar 29 Tachwedd ac mae disgwyl iddo wynebu hyd at bedair blynedd yn y carchar.