George Papandreou
Mae Prif Weinidog Gwlad Groeg wedi cytuno i ildio’r awenau er mwyn ffurffio llywodraeth glymblaid dros dro i sicrhau cytundeb newydd Ewropeaidd i ddelio â dyledion y wlad.

Mae’n dilyn wythnos o drafodaethau ymhlith arweinwyr Ewropeaidd.

Fe fydd George Papandreou ac arweinydd yr wrthblaid Antonis Samaras yn cwrdd heddiw i drafod pwy fydd y prif weinidog newydd a phwy fydd yn y  cabinet.

Roedd swyddogion wedi bod yn awyddus i ddod i gytundeb cyn cyfarfod â gweinidogion cyllid rhanbarth yr ewro ym Mrwsel heddiw.

Mae disgwyl i’r llywodraeth newydd gynnal etholiadau yn gynnar y flwyddyn nesaf.