George Papandreou
Mae Prif Weinidog Gwlad Groeg yn bwriadu ceisio creu llywodraeth unedig am bedwar mis er mwyn gwarchod y cytundeb Ewropeaidd i geisio lleddfu trafferthion ariannol y wlad.

Ar ôl hanner awr o araith emosiynol gerbron y senedd, fe ennillodd George Papandreou y bleidlais o hyder yn ei arweinyddiaeth o 153 – 145.

Dywed aelodau’r gwrthbleidiau beth bynnag na fyddan nhw’n ymuno i greu llywodraeth glymblaid. Mae arweinydd y brif wrthblaid geidwadol, Antonis Samaras wedi galw ar Mr Papandreou i ymddiswyddo a chynnal etholiadau brys.

“Mae’r cyfrifoldeb ar ysgwyddau Mr Papandreou yn anferthol,”meddai. “Yr unig ateb ydi galw etholiad.”

Roedd rhai ymhlith plaid sosialaidd Mr Papandreou wedi gwrthryfela ar ôl iddo alw am refferendwm ar y cynllun i dalu dyledion y wlad.

Fe wnaeth o ail feddwl dydd Iau ar ôl i arweinwyr Ewropeaidd ddweud y buasai’r refferendwm yn anorfod yn troi yn bleidlais ynglyn â Groeg yn parhau yn rhan o’r Ewro a’u bod felly am atal y taliad o 8 biliwn Ewro y mae Groeg ei angen ar frys. Heb y taliad yma gall Groeg feth-dalu cyn diwedd y flwyddyn.

O fewn oriau i ganlyniad y bleidlais, dywedodd Mr Papandreou bod rhaid derbyn cynnig yr Undeb Ewropeaidd gan y buasai yn “hanesyddol anghyfrifol” gwrthod. Ychwanegodd y buasai etholiadau brys yn cael effaith andwyol ar y cynllun ac mai dyma paham yr oedd angen llywodraeth glymblaid.

Mae llawer yn amau am ba hyd y bydd Mr Papandreou yn parhau yn Brif Weinidog. Dywedodd yn ei araith na fuasai yn rhoi uchelgais personol o flaen llês y wlad.

“Does gen i ddim diddordeb yn unrhyw swydd, a’r peth olaf y mae gennyf ddiddordeb ynddo yw cael fy ail-ethol” meddai.