George Papandreou
 Mae galw ar Brif Weinidog Gwlad Goreg i ymddiswyddo, wrth iddo baratoi ar gyfer pleidlais o ddiffyg hyder yn ei lywodraeth yn nes ymlaen heddiw. 

Ddoe fe alwodd arweinydd yr wrthblaid, Antonis Samaras, ar George Papandreou i ymddiswyddo, cyn arwain yr wrthblaid o’r Senedd ar ganol trafodaeth dros ymarferoldeb y llywodraeth bresennol. 

Mae Papandreou hefyd yn wynebu her o fewn ei blaid ei hun wrth iddi agosau at awr y bleidlais hyder ynddo heno, wedi i’r Aelod Seneddol Sosialaidd Eva Kaili ddweud na fyddai hi’n pleidleisio o’i blaid. Mae hyn yn gadael y Prif Weinidog gyda mwyafrif tenau iawn. 

Yn ddiweddar mae dwy wlad arall yn Ewrop heblaw Groeg wedi derbyn arian Ewropeaidd i’w hachub o’u strach ariannol, sef Portiwgal ac Iwerddon – ac mae llywodraethau’r ddwy wlad wedi chwalu yn ystod y wasgfa economaidd. 

Tro pedol ar refferendwm 

Ddoe daeth cyhoeddiad annisgwyl gan Brif Weinidog Gwlad Groeg, a ddywedodd na fyddai’r wlad yn cynnal refferendwm ar dderbyn amodau’r cymorth ariannol gan Ewrop wedi’r cyfan.

Roedd wedi gwneud tro pedol syfrdanol ar ôl addo refferendwm yn gynharach yr wythnos hon. 

Hyd yn hyn mae Papandreou wedi llwyddo i anwybyddu’r galw arno i ymddiswyddiad, ac yn hytrach wedi gwahodd yr wrthblaid i ymuno ag ef mewn trafodaethau ar y cynllun i achub economi’r wlad.