David Cameron
Mae’r prif weinidog David Cameron wedi galw ar holl arweinwyr gwledydd yr G20 i ddangos “awydd gwleidyddol”, wrth iddyn nhw gwrdd yn Ffrainc i geisio datrys y sefyllfa economaidd fregus ar draws y byd.
Maen nhw eisoes wedi dechrau trafod yn Cannes, ac mae disgwyl y byddan nhw’n cyhoeddi cytundeb yn nes ymlaen heddiw i gynyddu eu buddsoddiad yng Nghronfa Gyllid Ryngwladol yr IMF, mewn ymdrech i wella hyder economaidd.
Ond fe fydd y cyfan dan gysgod yr argyfwng yng Ngwlad Groeg a’r peryg y bydd y dadlau tros becyn achub yno’n chwalu cynlluniau i achub arian yr Ewro.
Heddiw, mae Prif Weinidog Groeg, George Papandreou, yn wynebu pleidlais hyder yn senedd y wlad ar ôl iddo alw refferendwm ar y pwnc, ac yna awgrymu ei fod yn newid ei feddwl.
Galwad David Cameron
Yn y cyfamser, mae David Cameron wedi bod yn dadlau dros gynyddu’r cyllid sydd ar gael i’r IMF ar gyfer benthyciadau i wledydd sy’n gwegian – fe allai hynny olygu cynyddu ymrwymiad y Deyrnas Unedig o £29 biliwn.
Mae llefarwyr ar ran y Prif Weinidog yn pwysleisio bod adnoddau’r IMF ar gael i wledydd ar draws y byd, ond fe fydd cwestiynau anodd yn ei wynebu os bydd y buddsoddiad newydd yn mynd i wledydd yr Ewro, fel yr Eidal neu Sbaen.