George Papandreou - dan bwysau (Asiantaeth Llywodraeth Gwlad Groeg)
Mae Gweinidog Gwlad Groeg yn dod dan fwy a mwy o bwysau ar ôl penderfynu cynnal refferendwm am y pecyn ariannol i achub economi’r wlad.

Mae rhai o’i weinidogion ef ei hun wedi gwneud yn glir nad ydyn nhw am adael rhanbarth yr Ewro – ond dyna fyddai canlyniad tebygol pleidlais ‘Na’.

Mae George Papandreou wedi bod yn cynnal cyfarfod o’i Gabinet heddiw a’i fwriad yw cynnal pleidlais o hyder yn senedd Gwlad Groeg ddydd Gwener.

Er hynny, mae rhai sylwebyddion yn amau a fydd yn parhau cyhyd â hynny. Eisoes, mae rhai o’r aelodau seneddol sy’n dal y fantol yn y Senedd wedi awgrymu na fyddan nhw’n ei gefnogi.

Pryder am yr Eidal hefyd

Mae’r bygythiad i sefyllfa George Papandreou wedi rhoi hwb i’r marchnadoedd arian, sy’n poeni y gallai refferendwm chwalu’r cynllun i achub yr Ewro ei hun.

Ond mae yna bryder pellach ar ôl clywed manylion cynllun yr Eidal i dorri ei dyledion hithau – yn ôl rhai, dyw’r cynllun ddim yn mynd yn ddigon pell – ac mae Portiwgal hefyd wedi gwneud cais am lacio’r amodau sydd ynghlwm wrth ei phecyn achub hithau.

Argyfwng yr Ewro fydd y prif bwnc wrth i arweinwyr gwledydd cyfoethog yr G20 gyfarfod yn Cannes.