Benjamin Netanyahu
Mae adroddiadau o Israel yn awgrymu bod y Prif Weinidog  eisiau ymosod ar Iran.

Dyw hi ddim yn glir ai bygwth gwag yw hyn neu a yw Benjamin Netanyahu o ddifri eisiau tanio taflegrau i geisio chwalu cynlluniau niwclear Iran.

Ond, yn ôl gwasanaeth newyddion Al Jazeera, mae’r gwasanaethau cudd yn Israel yn bryderus am agwedd y Prif Weinidog.

Ac mae cyn swyddog pwysig o fewn gwasanaeth cudd yr Unol Daleithiau wedi rhybuddio y bydd Israel yn ceisio taro Iran.

Arfau niwclear

Mae Benjamin Netanyahu wedi gwneud yn glir ei fod yn awyddus i herio Iran gan ddweud ei bod hi’n defnyddio cynllun ynni niwclear er mwyn datblygu arfau.

Mae Iran yn gwadu hynny, ond fe fydd ei hachos yn cael ei drafod yng nghyfarfod nesa’r Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol.

Yn ôl asiantaeth PA – mewn adroddiad a oedd wedi ei olygu gan sensor Israel – y gred yw fod Netanyahu o blaid ymosod ond nad oes mwyafrif yn ei Gabinet o blaid ar hyn o bryd.

Roedd y cyn swyddog o’r CIA, Robert Baer, wedi rhybuddio y byddai ymosodiad yn llusgo’r Unol Daleithiau i mewn i ryfel arall yn y Dwyrain Canol.