George Papandreou (Asiantaeth Llywodraeth Groeg)
Mae Llywodraeth Groeg yn dod dan bwysau anferth i dderbyn pecyn achub i’w heconomi ar ôl i’r Llywodraeth benderfynu cynnal refferendwm arno.

Mae gwledydd mawr ardal yr Ewro wedi dweud wrth y wlad na fydd yn derbyn rhagor o arian cymorth nac yn cael aros yn yr Ewro os bydd y pecyn yn cael ei wrthod.

Fe fyddai pleidlais ‘Na’yn y refferendwm ddechrau Rhagfyr yn chwalu’r cynllun i geisio achub  yr Ewro ei hun ac, yn y cyfamser, mae’r ansicrwydd yn golygu bod y marchnadoedd arian yn cwympo ar draws y byd.

Mentro

Mae’n ymddangos bod arweinwyr Ffrainc a’r Almaen – Nicolas Sarkozy ac Angela Merkel – wedi penderfynu mentro trwy gynyddu’r hyn sydd yn y fantol i Wlad Groeg.

Fe gawson nhw gyfarfod gyda Phrif Weinidog Gwlad Groeg, George Papandreou, neithiwr a dweud wrth o beth fyddai oblygiadau pleidlais ‘Na’. Fydd arian cymorth ddim yn cael ei dalu tan ar ôl y reffrednwm.

Mae arwyddion fod hynny’n dechrau gweithio, wrth i Weinidog Economi’r wlad ddweud bod rhaid i Roeg aros yn yr Ewro.

Fe syrthiodd prisiau cyfrannau yn Asia tros nos ac mae arbenigwyr yn awgrymu y byddai chwalu’r cynllun achub yn Ewrop yn arwain at beryg o ail ddirwasgiad yn yr Unol Daleithiau.

Yr Eidal yn derbyn

Yr un cysur i’r arweinwyr Ewropeaidd yw fod Llywodraeth yr Eidal wedi cefnogi cynllun i dorri’n ôl ar ei dyledion hi – y disgwyl yw y gallai’r Eidal ddod dan bwysau tebyg i Wlad Groeg heb gynllun o’r fath.

Mae’r cynllun yn cynnwys gwerthu peth o eiddo’r Llywodraeth, preifateiddio cwmnïau lleol a buddsoddi mewn cynlluniau mawr adeiladu a thrafnidiaeth ac isadeiledd.

Fe fydd Prif Weinidog Prydain, David Cameron, yn hedfan i ymuno gyda thrafodaethau gwledydd cyfoethog yr G20 heddiw a’r disgwyl yw mai argyfwng yr Ewro fydd y prif bwnc.