Fe allai tri o gricedwyr Pacistan  wynebu cyfnod yn y carchar yr wythnos hon ar ôl eu cael yn euog o dwyll.

Roedd cyn-gapten Pacistan Salman Butt, 27, a’r bowlwyr Mohammad Asif, 28, a Mohammad Amir, 19, wedi cynllwynio i fowlio peli annilys yn y gem yn erbyn Lloegr yn Lord’s y llynedd.

Cafodd y tri eu dal ar ôl i ohebydd recordio’r asiant Mazhar Majeed, 36, yn dweud sut y gallai cael cricedwyr Pacistan i dwyllo yn ystod gemau er mwyn gwneud arian.