Mae Sony wedi cyhoeddi colledion o £216 miliwn am eu chwarter ddiweddaraf heddiw, gan orfodi’r cwmni i newid eu rhagolygon ariannol am y flwyddyn.

Mae’r cwmni nawr yn disgwyl bod yn y coch am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, ar ôl i’r cwmni ddioddef yn sgil cynnydd yng ngwerth yr Yen, a gwerthiant sâl ar eu setiau teledu.

Mae’r cwmni teclynnau trydanol enfawr nawr yn disgwyl cyhoeddi £719 miliwn o golled yn y flwyddyn i fis Mawrth 2012, ar ôl darogan elw o £479m yn gynharach yn y flwyddyn.

Mae’r cwmni wedi gorfod ymdopi â sawl ergyd eleni, wrth i’r Yen gryfhau, ac wrth i werthiant, yn enwedig mewn setiau teledu, ostwng. Mae gweithgynhyrchu hefyd wedi cael ei ddal yn ôl gan y llifogydd yn Ngwlad Thai, ac fe fu’r tswnami yn Japan ym mis Mawrth yn ergyd i’r cwmni.

Mae Sony nawr wedi cyhoeddi cynlluniau arbennig ar gyfer gwella eu gafael ar y farchnad setiau teledu, gan ddweud eu bod nhw’n gobeithio gwneud yr adran honno o’r busnes yn broffidiol erbyn diwedd Mawrth 2014.

Yn ôl Sony, y broblem fawr hyd yma oedd gormodedd o setiau teledu crisial hylifol ar y farchnad, ac felly fe fydd y cwmni yn haneru’r nifer y maen nhw’n eu cynhyrchu o 40 miliwn i 20 miliwn o unedau, gan hefyd ostwng pris y setiau.

Mae’r cwmni wedi bod yn ceisio dal i fyny ag Apple ers tro bellach, ac maen nhw nawr yn edrych ar fynd i mewn i ragor o feysydd fydd yn cystadlu yn uniongyrchol â’r cwmni Americanaidd – trwy ddechrau gynhyrchu smartphones yn ogystal â’u cynnyrch bara menyn fel setiau teledu a chyfrifiaduron.

Ond mae Sony wedi colli rhywfaint o’i enw da eleni hefyd, wedi i hacwyr lwyddo i dorri mewn i systemau ar-lein y cwmni ar draws y byd – gan effeithio dros 100 miliwn o gyfrifon ar-lein.

A thra bod yr Yen yn cryfhau wrth i bryderon gynyddu ynglŷn â sefydlogrwydd doleri’r Unol Daleithiau, mae Sony wedi colli allan wrth i’r gwerthiant dramor – sy’n cyfrannu at 70% o’u masnach – ddechrau arafu, gan ddisgyn 9% ers y llynedd.

Roedd cyfranddaliadau Sony eisoes wedi disgyn 4% y bore ’ma i 1,520 Yen (£12.14) yn Tokyo, a hynny cyn i’r cwmni gyhoeddi eu colledion.