George Papandreou (Asiantaeth Llywodraeth Groeg)
Mae marchnadoedd y byd – ac arweinwyr gwleidyddol – wedi ymateb yn chwyrn wrth i Gabinet Gwlad Groeg gefnogi’r bwriad i gael refferendwm am becyn achub y wlad.

Fe gwympodd prisiau cyfrannau yn Asia ac mae sawl arweinydd Ewropeaidd wedi mynnu bod rhaid i Roeg dderbyn a chefnogi’r pecyn er mwyn achub arian yr Ewro ac atal rhagor o anhrefn yn economi’r byd.

Fe ddywedodd Arlywydd Ffrainc, Nicolas Sarkozy, fod y penderfyniad i gynnal refferendwm wedi bod yn “sioc” ac roedd rhaid i holl wledydd yr Ewro aros gyda’i gilydd.

‘Adferiad yn y fantol’

Yn ôl Canghellor Prydain, George Osborne, roedd adferiad economaidd y byd yn dibynnu ar y pecyn, sydd hefyd yn allweddol i achub arian yr Ewro.

Yn gynnar y bore yma, ar ôl cyfarfod saith awr, fe gytunodd Cabinet Gwlad Groeg i gefnogi bwriad y Prif Weinidog i gynnal refferendwm.

Yn ôl llefarydd, roedd dau weinidog yn amheus o’r penderfyniad, ond fe fydd y refferendwm yn digwydd “cyn gynted ag sydd bosib”.

Cyn hynny, fe fydd rhaid i’r llywodraeth yng Ngwlad Groeg wynebu pleidlais o ddiffyg hyder – pe bai’n colli honno, fe fyddai’r sefyllfa’n newid eto.

Protestio

Mae llawer o bobol Gwlad Groeg wedi bod yn protestio’n ffyrnig yn erbyn cyfres o becynnau rhyngwladol i achub economi’r wlad, gan fod y rheiny hefyd yn golygu toriadau gwario a thorri ar hawliau pensiwn.

Yn ôl y Prif Weinidog, George Papandreou, roedd rhaid cael cefnogaeth y bobol i weithredu’r pecyn diweddara’, sy’n cynnwys dileu hanner dyledion y wlad a chynyddu’r gronfa achub ar gyfer yr Ewro.

Fe fydd yn gorfod wynebu arweinwyr eraill yr Ewro yn ddiweddarach heddiw.