Mae arweinydd Fianna Fáil, Micheal Martin, wedi dweud y gallai cytundeb llywodraeth gael ei gwblhau o fewn dyddiau.

Bydd trafodaethau rhwng y Blaid Werdd, Fine Gael, a Fianna Fáil yn parhau’r wythnos hon wrth i’r tair plaid geisio cwblhau cytundeb ar ffurfio llywodraeth glymbleidiol.

Mae hi wedi bod yn 117 o ddiwrnodau er etholiad cyffredinol Iwerddon ond yn ôl Micheal Martin mae cynnydd wedi cael ei wneud.

Dywed fod angen ffurfio llywodraeth cyn Mehefin 30 fel bod Teachtaí Dála (Aelodau Seneddol) yn gallu pleidleisio ar yr Offences Against the State Act a fyddai’n dod i ben fel arall.

“Dwi’n meddwl fod angen llywodraeth sydd wedi ei ffurfio’n llawn gyda gweinidogion sy’n gwybod eu bod yn mynd i fod yno am y pedair neu bum mlynedd nesaf ac yn gallu dechrau gwneud penderfyniadau fydd yn cael effaith ar fywydau ddinasyddion y wlad hon,” meddai Micheal Martin.

“Rwyf yn credu y gallwn ddelio â’r materion gyda synnwyr cyffredin a gyda’r ewyllys i’w datrys.

“Yn bendant, os yw’r ewyllys yno fe allwn gyflawni hyn yn y dyddiau nesaf.”

Cefndir

Mae Fianna Fáil, Fine Gael a’r Blaid Werdd wedi bod mewn trafodaethau i ffurfio llywodraeth yn dilyn yr etholiad cyffredinol ar Chwefror 8 lle nad oedd plaid fwyafrifol.

Enillodd Fianna Fáil 38 o seddi tra’r oedd Sinn Fein ar 36, a Fine Gael ar 35.

Mae gan y Blaid Werdd 12 o seddi, tra bod y Blaid Lafur a’r Democratiaid Cymdeithasol â 6.

Er i Fianna Fáil golli wyth sedd â Fine Gael golli 12, mae’r ddwy blaid wedi gwrthod cynnal trafodaethau gyda Sinn Fein, a enillodd 15 sedd ychwanegol, cyfanswm o 36, gan ei gwneud hi’r ail blaid fwyaf yn Iwerddon.

Mae angen 80 o seddi i ffurfio llywodraeth fwyafrifol yn Iwerddon, ac ar y cyd mae gan Fianna Fáil a Fine Gael 73.

Gyda 12 sedd, y Blaid Werdd yw’r unig blaid all ymuno i ffurfio llywodraeth fwyafrifol heb orfod dibynnu ar aelodau annibynnol, y Blaid Lafur neu’r Democratiaid Cymdeithasol.