Mae miloedd o bobol wedi cael eu harestio wrth i brotestiadau barhau ar draws yr Unol Daleithiau yn dilyn marwolaeth George Floyd.

Roedd George Floyd, dyn croenddu, wedi ymbilio nad oedd yn gallu anadlu wrth i heddwas wasgu ar ei wddf â’i ben-glin am gryn amser cyn iddo farw.

Dyma rai o’r datblygiadau diweddaraf:

Portland

Bu i gannoedd o bobol dorri i ffwrdd o’r protestiadau heddychlon yn Portland, Oregaon, gan wynebu’r heddlu oedd yn gwarchod adeilad cyhoeddus.

Mewn neges fideo gafodd ei ryddhau ar Trydar, honnodd pennaeth yr heddlu Jami Resch fod protestwyr wedi ceisio dinistrio ffens oedd yn gwarchod rhan o gyfleuster sy’n dal pencadlys yr heddlu a charchar.

Yn gynharach, roedd miloedd o bobol wedi gorwedd ar bont sy’n rhychwantu’r Afon Willamette am naw munud, gyda’u cyrff yn gorchuddio’r holl bont.

Canslodd maer Portland Ted Wheeler y cyrffyw 8 yr hwyr ar ôl brolio protestwyr am eu gweithredoedd nos Lun (Mehefin 1), oedd yn heddychlon ar y cyfan.

Efrog Newydd

Roedd miloedd o bobol yn dal i brotestio yn erbyn marwolaeth George Floyd ar ôl y cyrffyw 8 yr hwyr yn Efrog Newydd.

Wrth i amser y cyrffyw agosáu, roedd pobol dal yn y strydoedd yn martsio, gyda swyddogion heddlu’n caniatáu iddynt barhau am gyfnod.

Ond yna dechreuodd yr heddlu orchymyn bod pobol i symud ymlaen, gan arestio’r sawl oedd ddim yn ufuddhau.

“Rydym yma oherwydd bod rhaid i rywbeth newid,” meddai Evan Kutcher, un o’r cannoedd o brotestwyr oedd tu allan i’r Barclays Centre’n bloeddio enw Geroge Floyd.

Los Angeles

Mae miloedd o bobol wedi bod yn protestio’n heddychlon yn Los Angeles.

Daeth y protestio wrth i’r cyrffyw dros nos gael ei adnewyddu yn Los Angeles ac ardaloedd eraill sydd wedi gwrthdaro.

Bu i gannoedd o bobol brotestio tu allan i dŷ’r Maer Eric Garcetti.

Minneapolis

Yn y ddinas lle cafodd George Floyd ei lofruddio gan heddwas, mae’r protestio wedi parhau.

Mae bwrdd ysgol Minneapolis wedi pleidleisio i ddod a’u cytundeb ag Adran Heddlu Minneapolis i ben yn dilyn marwolaeth George Floyd.

Mae’n debyg fod y bleidlais hon yn unfrydol.