Mae’r Arlywydd Donald Trump, sydd wedi disgrifio’i hun fel “llywydd cyfraith a threfn” wedi bygwth galw am y fyddin os nad yw llywodraethwyr y taleithiau am atal y protestiadau treisgar parhaus ar draws yr Unol Daleithiau.

Fe fu protestiadau ar draws y wlad yn ystod y chwe niwrnod ers i George Floyd, dyn croenddu, gael ei ladd dan law plismon oedd wedi sathru ar ei wddf.

“Yn gyntaf, rydym yn dod â’r terfysgoedd a’r anghyfraith sydd wedi ymledu ar hyd a lled ein gwlad i ben,” meddai Donald Trump.

“Byddwn yn ei orffen nawr.

“Heddiw, rydw i wedi argymell bod pob llywodraethwr yn defnyddio nifer ddigonol o’r Gwarchodlu Cenedlaethol i ddominyddu’r strydoedd.

“Os yw dinas neu dalaith yn gwrthod cymryd y camau sydd eu hangen i amddiffyn bywyd ac eiddo eu trigolion, yna mi fydda i yn defnyddio milwyr  yr Unol Daleithiau ac yn datrys y broblem yn gyflym iddyn nhw.”

George Floyd

Bu chwe niwrnod o aflonyddwch yn olynol wedi marwolaeth George Floyd ym Minneapolis, gyda chyrffiw bellach yn cael ei osod yn Efrog Newydd a Los Angeles oherwydd yr aflonyddwch ar ôl i nifer o bobol groenddu farw dan law pobol â chroen gwyn.

Ddoe (dydd Llun, Mehefin 1), cyhoeddodd arholwr meddygol annibynnol farwolaeth George Floyd fel dynladdiad, gan ddweud i’w galon stopio wrth i’r heddlu ei ffrwyno a gwasgu ar ei wddf.

Mae plismon ym Minneapolis wedi cael ei gyhuddo o lofruddio George Floyd, ac mae tri o swyddogion eraill wedi eu diswyddo.

Apelio am heddwch

Er bod llawer o’r protestiadau o amgylch y wlad wedi bod yn brotestiadau heddychlon gan dorfeydd amrywiol, mae eraill wedi troi’n dreisgar, er gwaethaf cyrffiw mewn llawer o ddinasoedd a defnyddio miloedd o filwyr cenedlaethol mewn o leiaf 15 o daleithiau.

Ddoe (dydd Llun, Mehefin 1),  ymddangosodd brawd George Floyd yn y fan lle bu farw ei frawd ym Minneapolis i apelio am heddwch.

“Rwy’n deall eich bod yn gofidio,” meddai wrth y dorf trwy uwch seinydd.

Ond dywedodd nad yw aflonyddwch sifil a dinistr “yn mynd i ddod â fy mrawd yn ôl o gwbl”.

“Efallai ei fod yn teimlo’n dda ar hyn o bryd, fel pan fyddwch chi’n yfed, ond pan fyddwch chi wedi gorffen, rydych chi’n mynd i feddwl beth wnaethoch chi.

“Gadewch i ni wneud hyn mewn ffordd arall.”