Mae clwstwr o’r coronafeirws wedi’i ganfod ar gwch cargo ym mhorthladd Fremantle yn Awstralia.

Roedd chwech allan o 48 aelod o griw’r Al Kuwait wedi profi’n bositif am y feirws bedwar diwrnod ar ôl i’r cwch gyrraedd o’r Emiradau Arabaidd Unedig ddydd Gwener (Mai 22).

Cafodd chwech oedd wedi eu heintio eu cludo i westy cwarantîn yn ninas Perth wrth i swyddogion iechyd bendroni beth i’w wneud â’r 42 person oedd ar ôl ar y cwch.

Mae cargo’r cwch – 56,000 o ddefaid – yn cael eu dal mewn cyfleuster ger y porthladd.

Mae’r awdurdodau’n disgwyl i ragor o’r criw gael eu heintio a bydd yn rhaid i’r cwch gael ei lanhau yn drylwyr cyn iddo allu gadael.

Anghytuno

Mae dwy adran ffederal y llywodraeth yn anghytuno’n gryf ynglyn ag adroddiad llywodraeth Gorllewin Awstralia ar sut cafodd y cwch fynediad i’r porthladd.

Dywed Mark McGowan, prif weinidog talaith Gorllewin Awstralia, fod y cwch wedi gadael yr Emiradau Arabaidd Unedig ar Fai 7 ac wedi cael caniatâd gan yr Adran Amaeth, Dŵr ag Amgylchedd i ddocio ym mhorthladd Fremantle.

Dywedodd y Gweinidog Amaeth David Littleproud wrth Gorfforaeth Ddarlledu Awstralia (ABC) fod meistr y llong wedi adrodd bod “tri o’r criw yn sâl, ond ddim efo symptomau Covid-19.”

Yn ôl y Prif Weinidog rhoddodd Llu Ffiniau Awstralia ganiatâd i’r cwch ddocio yn Fremantle ddydd Gwener er bod meistr y llong wedi adrodd bod gan un aelod o’r criw dymheredd uchel a bod gan dri arall symptomau tebyg.

Mae Llu Ffiniau Awstralia wedi gwadu eu bod wedi derbyn unrhyw adroddiadau o salwch ar y cwch.

Mae David Littleproud yn honni bod ei adran wedi cael gwybod fod gan rywun symptomau coronafeirws ar y diwrnod y cyrhaeddodd y cwch y porthladd.

Dywed ei fod wedi gofyn am dystiolaeth gan ei adran a’i fod wedi rhybuddio’r awdurdodau iechyd yn syth.

“Dwi eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw wedi gwneud yn union beth maen nhw’n ddweud,” meddai.

Dyw e ddim wedi derbyn unrhyw dystiolaeth hyd yma.