Mae llys yn yr Almaen wedi dyfarnu bod yn rhaid i Volkswagen brynu ceir diesel sydd â meddalwedd i dwyllo profion allyriadau, yn ôl gan eu perchnogion.

Ond fe fydd yn rhaid i’r perchnogion dderbyn gwerth presennol y car ar sail y milltiroedd maen nhw wedi’u gwneud, nid y pris prynu.

Dywed Volkswagen y byddai’r penderfyniad yn agor y drws i setlo gweddill yr hawliadau gan gwsmeriaid yn yr Almaen.

Fe fydd y penderfyniad yn effeithio ar tua 60,000 o hawliadau unigol gan berchnogion ceir yn yr Almaen. Mae 262,000 o achosion eraill eisoes wedi eu setlo.

Cafodd Volkswagen eu dal yn twyllo gan awdurdodau yn America ym mis Medi 2015 ac ers hynny mae wedi talu mwy na 33 biliwn ewro mewn dirwyon a setliadau ledled y byd.

Mae’r cwmni’n dal i wynebu achosion yn eu herbyn gan fuddsoddwyr.