Mae Prif Weinidog Japan, Shinzo Abe, wedi dod â’r stad o argyfwng i ben yn Tokyo ac yn y pedair ardal arall lle’r oedd yn dal mewn grym. Golyga hyn fod y gwaharddiadau coronafeirws wedi dod i ben drwy’r holl wlad bellach.

Mae Japan, gyda thua 16,600 o achosion ac 850 o farwolaethau, wedi llwyddo hyd yma i reoli’r pandemig yn llawer gwell nag America ac Ewrop er gwaethaf cyfyngiadau llai llym.

Dywed Shinzo Abe nad yw codi’r gwaharddiadau’n golygu diwedd yr argyfwng, ac mai’r nod yw cydbwyso mesurau ataliol a’r economi hyd nes bydd brechlynau a chyffuriau effeithiol ar gael.