Mae lluoedd Nato wedi gadael Libya, ar ôl saith mis yn gwarchod yr awyr rhag awyrennau milwrol.

Mae’n bythefnos ers i’r cyn-unben, Muammar Gaddafi, gael ei ladd, ac mae Nato wedi penderfynu ei bod yn bryd gadael y wlad, er gwaetha’ galwadau gan y gynghrair wleidyddol yno i aros am rai wythnosau ymhellach.

Mae llwyddiant cymharol gyflym Nato wedi bod yn hwb mawr i’r corff a sefydlwyd yn ystod y Rhyfel Oer, yn enwedig ar ôl 10 mlynedd o frwydro yn Affghanistan, 12 mlynedd yn Kosovo, a rhagor o frwydro yn erbyn môr ladron ar arfordir Somalia.

Mae rhai, gan gynnwys Rwsia, wedi beirniadu Nato am ddefnyddio’u hawl cyfyng iawn i ‘warchod yr awyr’ er mwyn gwthio newid yn llywodraeth y wlad.

Ond mae Nato yn mynnu fod y llwyddiant yn perthyn i bawb.

“Gyda’n gilydd fe wnaethon ni lwyddo,” meddai pennaeth Nato Anders Fogh Ramussen mewn cynhadledd ar y cyd ag arweinydd dros-dro Libya, Mustafa Abdul Jalil, yn Nhirpoli.

‘Newid eich hanes’

Tra’n annerch pobol Libya, dywedodd eu bod nhw “wedi gweithredu i newid eich hanes a’ch tynged. Fe wnaethon ni weithredu er mwyn eich diogelu.”

Yn y saith mis diwethaf, mae Nato wedi hedfan 26,000 taith, gan gynnwys 9,600 o ymgyrchoedd ymosodol, gan ddinistrio dros 1,000 o danciau, cerbydau a gynnau.

Awyrennau o’r Unol Daleithiau oedd chwarter yr awyrennau hynny, gan gymryd rhan gefnogol yn y mwyafrif o achosion fel cadw golwg ar ardaloedd brwydro a chludo tanwydd, tra mai cynghreiriaid Ewrop oedd yn gyfrifol am ran fwyaf yr ymosodiadau ar y tir.

Wrth i Nato adael Libya neithiwr, fe gyhoeddodd y cyngor dros-dro eu bod nhw wedi penodi prif weinidog newydd, sef Abdurrahim el-Keib, sydd wedi derbyn ei addysg yn yr Unol Daleithiau. Fe fydd e’ nawr yn dewis ei lywodraeth ac yn paratoi tuag at etholiadau cyntaf y wlad.

Un o dasgau cyntaf y llywodraeth ddemocrataidd newydd fydd  creu cyfansoddiad newydd i’r wlad.