Mae dogfen gafodd ei rhyddhau i lys ddydd Mawrth (Mai 19) yn datgelu meddylfryd dyn oedd wedi saethu 22 o bobol yn Nova Scotia fis diwethaf.

Dywed y ddogfen fod saith person ddaeth i gysylltiad â Gabriel Wortman wedi sôn am broblemau’n ymwneud â’i bersonoliaeth, yn ogystal â gweld arfau yn ei glinig yn Darmouth a’i fwthyn yn Portapique.

Mae un person yn ei ddisgrifio fe fel “sociopath” oedd yn cadw reiffl ar yr aelwyd sydd wedi’i ddisgrifio fel “peiriant saethu”.

Mae cyn-gydweithiwr wedi dweud wrth swyddogion fod gan Gabriel Wortman “baranoia” am y pandemig coronafeirws a’i fod wedi “torri i lawr” wrth drafod ei eiddo yn Portapique.

Cefndir

Dywed yr heddlu fod Gabriel Wortman wedi cynnau tanau mewn pum cymuned yn Nova Scotia ar Ebrill 18 cyn saethu pedwar o bobol.

Saethodd e 13 o bobol i gyd, a bu farw naw yn y tanau, meddai’r heddlu.

Roedd Gabriel Wortman, a gafodd ei ladd gan yr heddlu ar Ebrill 19, yn berchen ar bedwar hen gar heddlu ac roedd yn casglu gwisgoedd heddlu, ac roedd e’n gwisgo’r gwisgoedd yn ystod ei ymosodiadau.

Yn y ddogfen, mae rhai o’r tystion yn amcangyfrif fod Gabriel Wortman wedi prynu gwerth $800 (£656) o betrol cyn lladd pobol.

Dyw e-byst gan y llofrudd ddim yn awgrymu’r hyn oedd i ddod.

“Rwyf yn fy mwthyn yn Portapique. Rwyf yn mwynhau’r rhagarweiniad hwn i fy ymddeoliad,” meddai un neges.