Mae Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn dweud iddo gymryd tabledi malaria i’w warchod rhag y coronafeirws – er gwaethaf cyngor ei lywodraeth ei hun.

Yn ôl Llywodraeth yr Unol Daleithiau, ddylai neb gymryd y tabledi y tu allan i’r ysbyty neu ganolfan ymchwil, a hynny oherwydd sgil effeithiau’r cyffur sy’n gallu lladd yn yr achosion mwyaf difrifol.

Fe ddywedodd Donald Trump wrth ohebwyr ei fod e wedi bod yn cymryd y tabledi “ers tua wythnos a hanner”, ar ôl bod yn canu ei glodydd yn groes i gyngor arbenigwyr.

Does dim tystiolaeth ar hyn o bryd fod y cyffur yn gallu trin y coronafeirws, ac mae Donald Trump yn dweud fod ffisegydd yn y Tŷ Gwyn wedi rhoi’r cyffur iddo.

“Fe wnes i ddechrau ei gymryd oherwydd dw i’n credu ei fod e’n dda,” meddai.

“Dw i wedi clywed tipyn o straeon da.”

Mae arbenigwyr yn y Tŷ Gwyn yn dweud bod manteision y cyffur yn fwy buddiol nag y mae’r anfanteision yn niweidiol.

Mae Donald Trump yn dweud ei fod “yn iawn hyd yn hyn”.

Ymateb

Mae’r Democratiaid yn dweud bod sylwadau Donald Trump yn “beryglus”, ac mae’r Seneddwr Chuck Schumer yn dweud ei fod e’n “dweud celwyddau’n nodweddiadol”.

Mae dau aelod o staff Donald Trump wedi profi’n bositif ar gyfer y feirws ac mae sawl aelod o staff wedi bod yn hunanynysu.

Ers hynny, mae’n rhaid i staff wisgo mygydau dros eu hwynebau ac mae Donald Trump, ei ddirprwy Mike Pence a phobol sy’n dod i gysylltiad â nhw’n rheolaidd yn cael eu profi’n ddyddiol.

Mae meddygon yn dweud eu bod nhw’n gofidio bod sylwadau Donald Trump yn cael eu dehongli fel neges fod y cyffuriau malaria yn ddiogel ac yn llwyddiannus.