Mae Sbaen wedi dechrau’r broses o symud drwy bum cam i ryddhau’r cyfyngiadau yn ystod y pandemig yn raddol.

Er na chaniatawyd i brifddinas Catalwnia symud o gam 0 i gam 1 yn y cynllun swyddogol yr wythnos hon, caniatawyd rhai mesurau gan Lywodraeth Sbaen ar ôl i Lywodraeth Catalwnia ofyn am ‘gam 0.5’ ar gyfer y ddinas a’i hardal fetropolitaidd.

Mae hyn yn cynnwys caniatáu i rai siopau bach agor eto heb apwyntiad, ac agor mannau addoli gan ganiatáu traean o’u cynulleidfa arferol.

Cynhaliodd Eglwys Gadeiriol Barcelona yr offeren gyntaf mewn dau fis bore ’ma.

Er bod y rheoliadau newydd yn nodi y gall amgueddfeydd a llyfrgelloedd hefyd agor gyda rhai cyfyngiadau, penderfynodd rhwydwaith y ddinas o 40 o lyfrgelloedd cyhoeddus beidio â gwneud hynny.

“Rydym yn gweithio i addasu yn unol â’r mesurau iechyd priodol er mwyn agor i’r cyhoedd cyn gynted â phosibl, ” meddai’r rhwydwaith ar Twitter ar fore dydd Llun, Mai 18.

O ran amgueddfeydd, ni fydd y prif rai yn agor eto am yr un rheswm. Mae llawer ohonyn nhw yn bwriadu caniatáu ymwelwyr eto o ganol mis Mehefin.

Ni all bariau na bwytai agor eto, ddim hyd yn oed y rhai sydd ag ardaloedd i eistedd yn yr awyr agored. Yn yr un modd, rhaid i siopau sydd dros 400 metr sgwâr a’r canolfannau siopa aros ar gau hefyd.

Tri rhanbarth arall yn y “cam cyntaf”

Daeth y ‘cam 0.5’ hwn i rym ar fore Llun yn Barcelona.

Eithriad i hynny yw siroedd Garraf a Alt Penedès, a aeth i gam 1 heddiw ynghyd â rhanbarthau Girona, Lleida, a Chanolbarth Catalwnia.

Mae’r ardaloedd hyn yn ymuno â rhanbarthau Tarragona, Ebre a Gorllewin Catalwnia, sydd eisoes wedi bod yng ngham 1 ers wythnos ac yn ymgeiswyr i symud i gam 2 ddydd Llun nesaf, Mai 25.

Mae cam 1 hefyd yn caniatáu i siopau bach agor heb apwyntiad, yn ogystal ag ardaloedd maint 400 metr sgwâr mewn siopau mawr a therasau bariau a bwytai, gan ganiatáu hanner y cwsmeriaid arferol.

Bydd pobl hefyd yn medru cwrdd mewn grwpiau o 10 mewn mannau cyhoeddus a phreifat.

Mwy o bobl ar drafnidiaeth gyhoeddus

Yn Barcelona, roedd y diwrnod cyntaf yma o lacio’r lockdown wedi golygu cynnydd mewn pobl ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Gwelwyd 9% yn fwy o deithwyr ar y trenau dan ddaear nag oedd ddydd Llun diwethaf yn ystod yr awr brysuraf yn y bore.