Mae un person wedi marw ac un arall wedi’u hanafu’n ddifrifol yn dilyn damwain awyren yn ystod arddangosfa erobateg yng Nghanada.

Roedd yr arddangosfa gan dîm erobateg y Snowbirds wedi cael ei gynnal yn British Columbia ddydd Sul (Mai 17) er mwyn codi calonnau pobl yn ystod y pandemig coronafeirws.

Dywedodd y Prif Weinidog Justin Trudeau ei fod wedi ei “dristau” o glywed am farwolaeth y Capten Jennifer Casey, a oedd yn llefarydd ar ran y Snowbirds, ac am anafiadau’r Capten Richard MacDougall ar ôl i’w awyren lanio ar do tŷ.

“Dros y pythefnos diwethaf mae’r Snowbirds wedi bod yn hedfan ar draws y wlad er mwyn codi calonnau pobl Canada yn ystod y cyfnod anodd hwn,” meddai Justin Trudeau.

Dywedodd bod yr arddangosfeydd wedi rhoi “gwen ar wyneb pobl Canada ymhobman ac yn gwneud i ni deimlo balchder.”

Mae’r arddangosfeydd bellach wedi cael eu gohirio.

Mae fideo yn dangos dwy awyren y Snowbirds yn gadael maes awyr Kamloops yn British Columbia gydag un yn esgyn i’r awyr cyn troi drosodd a tharo’r ddaear. Mae’n debyg bod awyren arall wedi taro yn erbyn tŷ.

Ni chafodd unrhyw un arall eu hanafu yn y digwyddiad.