Mae’r awdur Neil Gaman dan y lach am deithio mwy nag 11,000 o filltiroedd o Seland Newydd i un o ynysoedd yr Alban – yn groes i gyfyngiadau teithio’r coronafeirws.

Mae ganddo fe gartref ar ynys Skye, ac mae’n dweud ei fod e’n “mynd adref” wrth gwblhau’r daith, a hynny er mwyn “hunanynysu’n hawdd” ar ôl cytuno â’i wraig Amanda fod angen iddyn nhw gael seibiant oddi wrth ei gilydd.

Mae’n dweud iddo wisgo mwgwd a menig ar gyfer y daith awyr o Auckland i Los Angeles, ac o Los Angeles i Lundain, cyn benthyg car ei ffrind i yrru o Lundain i’r Alban.

Dim ond teithio angenrheidiol sy’n cael ei ganiatáu yn yr Alban ar hyn o bryd.

Beirniadaeth

Mae Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, wedi rhybuddio pobol rhag cwblhau teithiau tebyg.

“Mae dod o ben draw’r byd yn syfrdanol,” meddai.

“Byddwn yn croesawu pawb i’r Highlands pan fydd yn ddiogel.

“Ond am y tro, cadwch draw.”

Mae nifer o bobol wedi ei feirniadu ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd, gyda rhai yn gofyn ble mae ei “synnwyr cyfredin” ac eraill yn dweud bod y daith yn “annerbyniol”.

Mae Neil Gaiman yn dweud ei fod e’n talu trethi yn y Deyrnas Unedig a’i fod yn cael pleidleisio yn yr Alban.