Mae cryn nifer o bobl wedi bod yn defnyddio’r lockdown i wella gwahanol sgiliau – o goginio i beintio neu ysgrifennu, ac i ddysgu’r iaith Gatalaneg.

Mae gwefannau fel Parla.cat wedi gweld nifer y myfyrwyr yn cynyddu o 8,500 ym mis Mawrth i dros 18,000 o bobol bellach yn cymryd dosbarthiadau o adref.

Er bod llawer o’r myfyrwyr hyn yn byw yng Nghatalwnia, mae tua thraean o’r rhai sydd wedi cymryd diddordeb yn yr iaith yn byw mewn rhannau eraill o Sbaen neu hyd yn oed dramor.

Mae Consorci per a la Normalització Lingüística (consortiwm ar gyfer safoni ieithyddol, neu CPNL mewn Catalaneg), corff cyhoeddus a sefydlwyd yn 1989 i feithrin y defnydd o’r Gatalaneg, hefyd wedi sylwi ar y duedd hon ymhlith y myfyrwyr.

Er bod holl wersi Catalaneg CPNL wedi cael eu gorfodi i fynd ar-lein bellach oherwydd pandemig Covid-19, cyn y gwarchae roedd tua 93% o’r holl fyfyrwyr yn mynychu dosbarthiadau, a dim ond 7% a oedd wedi cofrestru ar gyfer cyrsiau ar-lein.

Mae hynny’n golygu, yn 2019, fod 3,887 o fyfyrwyr yn cymryd gwersi ar-lein, ond yn ystod mis a hanner cynta’r gwarchae, fe welon nhw dros 6,000 yn ymuno.