Mae ymgyrchwyr yn galw am gymorth i ddiwydiant ymladd teirw Sbaen yn sgil y coronafeirws.

Mae’r achosion o’r coronafeirws wedi arwain at ganslo dros 50 o ddigwyddiadau ymladd teirw yn Sbaen, ac am nawr yn achub 300 o deirw – rhywbeth a fydd wrth fodd ymgyrchwyr, yn enwedig yng Nghatalwnia, lle bu ymgyrch ers 2004 i wahardd y gamp yn llwyr.

Mae grŵp hawliau anifeiliaid amlycaf Sbaen, AnimaNaturalis, yn manteisio ar ohirio’r digwyddiadau i ddwyn mwy o sylw at ymladd teirw.

Gyda phoblogrwydd y gamp eisoes yn lleihau a holl ddigwyddiadau ymladd ar gyfer mis Mawrth a mis Ebrill wedi’u canslo, mae disgwyl y bydd y diwydiant ymladd teirw yn Sbaen yn cael ei daro’n arbennig o galed gan y coronafeirws,.

Mae sefydliad Toro Lidia, Undeb Cenedlaethol Sbaen, yn gofyn am gymorth ariannol gan y llywodraeth ffederal a rhoddwyr unigol i helpu i gadw’r diwydiant ar ei draed.

Mae José Manuel Rodríguez Uribe, Gweinidog Diwylliant Sbaen, yn ceisio sefydlu cynllun wrth gefn i gefnogi’r diwydiant, ond mae ymgyrchwyr hawliau anifeiliaid, dan arweiniad AnimaNaturalis, yn ymladd yn ôl.

Gwahardd

Mae taleithiau unigol yn Sbaen eisoes yn dechrau gosod y sylfeini ar gyfer gwaharddiad cenedlaethol ar ymladd teirw.

Yr Ynysoedd Dedwydd (Canary Islands) oedd y cyntaf i wahardd y gamp yn 1991 a Chatalwnia oedd yr ail yn 2012.

Mae ymladd teirw hefyd wedi cael ei wahardd mewn o leiaf 100 o drefi.

Mae’r gwaharddiadau rhanbarthol hyn wedi sbarduno dadlau aruthrol yn genedlaethol, gan arwain at wrthwynebiad cryf gan Geidwadwyr Sbaen.

Mae’r ddadl am ymladd teirw yn rhannu’r pleidiau gwleidyddol, y chwith a’r dde, yn sylweddol.

Fe ymunodd Isabel Díaz Ayuso, Maer Ceidwadol Madrid, gyda swyddogion asgell-dde Sbaen wrth ddweud bod gwaharddiadau ar ymladd teirw yn “anghyfansoddiadol”, gan ganmol yr ymladd fel “mynegiant o ryddid.”

Gwrthdroi dyfarniad Catalwnia

Dydy’r holl waharddiadau ymladd teirw o fewn taleithiau a threfi wedi bod yn llwyddiannus, fodd bynnag.

Bedair blynedd ar ôl i Gatalwnia gyflwyno gwaharddiad, fe wnaeth Llys Ffederal Sbaen wyrdroi’r dyfarniad, gan ddweud fod Catalwnia yn rhagori ar ei hawdurdod taleithiol drwy wahardd “treftadaeth ddiwylliannol gyffredin”.

Dyfarnodd y llys fod Catalwnia yn cadw ei hawl i reoli ymladd teirw yn y rhanbarth, ond ni allai ei wahardd yn llwyr.

Datganodd Neus Munté, llefarydd Llywodraeth Catalwnia, yn ffyrnig y byddai ei Llywodraeth yn sicrhau na fyddai dyfarniad y Llys Ffederal yn cael unrhyw effaith ymarferol ar waharddiad ymladd teirw yng Nghatalwnia.

Mae llawer o ddinasyddion wedi cyhuddo Llywodraeth Sbaen o ddiystyru Catalwnia wrth anwybyddu’r gwaharddiadau sy’n dal i gael effaith mewn rhannau eraill o Sbaen.

Mae brwydr Catalwnia dros ymreolaeth wleidyddol yn rhan o’r ymdrech barhaus i frwydro yn erbyn gwaharddiad ymladd teirw yn y dalaith.

“Mae Barcelona wedi  ymgyrchu yn erbyn y ymladd teirw ers 2004,” meddai Ada Colau, Maer Barcelona.

“Beth bynnag mae’r llys yn ei ddweud, ni fydd prifddinas Catalonia yn caniatáu i anifeiliaid gael eu cam-drin.”

Mae Sefydliad Toro Lidia yn beio’r dirywiad parhaus ym myd ymladd teirw ar gymdeithas sydd bellach yn “anghyfarwydd” â’r byd ymladd teirw a’i wreiddiau diwylliannol dwfn, ac maen nhw o’r farn fod treftadaeth ddiwylliannol Sbaen dan ymosodiad gan wleidyddion, ymgyrchwyr, a dinasyddion cyffredin sydd, yn ôl eu gwefan, “yn ymddangos fel pe baen nhw’n arwain ideoleg o empathi a rhagoriaeth foesol.”