Fe wnaeth gweinyddiaeth Donald Trump fethu â pharatoi’n drylwyr am y coronafeirws, cyn ceisio am ddatrysiad cyflym drwy wthio cyffuriau oedd heb eu profi, yn ôl gwyddonydd blaenllaw.

Yn ôl Rick Bright, cyn-gyfarwyddwr yr Awdurdod Ymchwil a Datblygu Biofeddygol Uwch, cafodd ei symud i swydd lai am fentro gwrthsefyll pwysau gwleidyddol i ganiatáu’r defnydd eang o hydroxychloroquine, cyffur malaria roedd Donald Trump yn awyddus i’w ddefnyddio.

Dywed fod gweinyddiaeth Donald Trump eisiau i’r cyffur “lifo” i mewn i lefydd lle’r oedd y coronafeirws ar ei anterth, megis Efrog Newydd.

“Roedd pa mor awyddus oedden nhw i wthio ymlaen â rhoi’r cyffur hwn yn nwylo Americanwyr heb ddata digonol yn frawychus i mi a fy nghyd-wyddonwyr,” meddai Rick Bright.

Mae wedi cwyno wrth Swyddfa’r Cwnsler Arbennig, asiantaeth lywodraethol sy’n ymchwilio i achosion o ddial yn erbyn gweithwyr ffederal sy’n datgelu problemau.

Mae Rick Bright eisiau ei swydd yn ôl, ac yn galw am ymchwiliad llawn.

Donald Trump o dan bwysau

Daw cwynion Rick Bright wrth i weinyddiaeth Donald Trump wynebu beirniadaeth ynglŷn â’i hymateb i’r pandemig, gan gynnwys diffyg profion, cyflenwad peiriannau anadlu a masgiau.

Mae bron i 1.2m o achosion wedi bod yn yr Unol Daleithiau, gyda dros 70,000 o farwolaethau.

Dywed Rick Bright fod ei uwch swyddogion wedi gwrthod ei rybuddion droeon y byddai’r feirws yn lledaenu i’r Unol Daleithiau.

Dywed hefyd ei fod wedi “gweithredu ar frys” i geisio mynd i’r afael â lledaeniad y coronafeirws yn dilyn rhybuddion Sefydliad Iechyd y Byd fis Ionawr.

Mae Nancy Pelosi, Llefarydd y Tŷ, wedi galw’r gwyn yn “niweidiol iawn.”