Mae Eamon Ryan, arweinydd y Blaid Werdd yn Iwerddon, yn hyderus y bydd Fianna Fáil a Fine Gael yn cytuno ar eu targedau amgylcheddol er mwyn cael ffurfio llywodraeth.

Mae’r Blaid Werdd yn mynnu cael addewid y bydd allyriadau carbon yn cael eu torri 7% os byddan nhw’n ffurfio clymblaid gyda Fianna Fáil a Fine Gael.

Bydd Eamon Ryan yn cyfarfod â Leo Varadkar a Micheal Martin heddiw (dydd Mawrth, Mai 5) er mwyn cynnal trafodaethau ar bolisïau llywodraethu.

Cytunodd y Blaid Werdd i gynnal trafodaethau gyda’r ddwy blaid dros y penwythnos.

Cydweithio

Mewn datganiad ddydd Sul (Mai 3), dywedodd y Gwyrddion eu bod yn bwriadu cydweithio i ddatblygu cytundeb sy’n “parchu ein mandad.”

Mae aelodau’r blaid eisiau ymrwymiad cadarn gan Fianna Fáil a Fine Gael ar nifer o dargedau newid hinsawdd uchelgeisiol, gydag addewid i dorri allyriadau carbon 7% yn flynyddol yn hanfodol os ydyn nhw am ffurfio clymblaid.

Dywedodd Eamon Ryan wrth RTE fod ei blaid wedi ceisio cael eglurhad gan y ddwy blaid dros y penwythnos.

“Maen nhw wedi gwneud lot o waith ac wedi dod yn ôl gan ddweud eu bod nhw’n fodlon ymrwymo i gyfres o uchelgeisiau,” meddai.

Anghydfod mewnol

Daw’r datblygiadau yma wedi i Catherine Martin, dirprwy arweinydd y Blaid Werdd, bleidleisio yn erbyn ffurfio clymblaid.

Roedd hyn ar ôl i ddirprwy arweinydd Fine Gael, Simon Coveney ddweud na fyddai’r gostyngiad o 7% yn cael mynd yn ei flaen pe byddai’n “dinistrio Iwerddon wledig.”

Dywed Eamon Ryan ei bod hi’n “berffaith arferol a phriodol” i gael gwahanol syniadau o fewn plaid wleidyddol.

Aeth yn ei flaen i ddweud bod pobol Iwerddon yn “rhwystredig” bod trafodaethau’n dal i gael eu cynnal ar ôl etholiad mis Chwefror.

Cefndir

Mae Fianna Fáil a Fine Gael wedi bod mewn trafodaethau i ffurfio llywodraeth yn dilyn yr etholiad cyffredinol ar Chwefror 8 lle nad oedd plaid fwyafrifol.

Enillodd Fianna Fáil 38 o seddi tra’r oedd Sinn Feinn ar 36, ac enillodd Fine Gael 35.

Mae’r Blaid Werdd efo 12 o seddi tra bod y Blaid Lafur a’r Democratiaid Cymdeithasol ar 6.

Er i Fianna Fáil golli wyth sedd â Fine Gael wedi colli 12, mae’r ddwy blaid wedi gwrthod cynnal trafodaethau gyda Sinn Feinn, a enillodd 15 sedd gan ei gwneud hi’r ail blaid fwyaf yn Iwerddon.

Mae angen 80 o seddi i ffurfio llywodraeth fwyafrifol yn Iwerddon, ac ar y cyd mae gan Fianna Fáil a Fine Gael 73.

Gyda 12 sedd, y Blaid Werdd yw’r unig blaid all ymuno i ffurfio llywodraeth fwyafrifol heb orfod dibynnu ar aelodau annibynnol, y blaid Lafur neu’r Democratiaid Cymdeithasol.