Mae’r Eidal wedi dechrau llacio rhagor o gyfyngiadau’r coronafeirws heddiw (Mai 4).

Daw hyn wedi i 174 o farwolaethau gael eu cofnodi ddoe (dydd Sul, Mai 3) – y nifer lleiaf mewn diwrnod ers i’r cyfyngiadau ddechrau yno ar Fawrth 10.

Bydd parciau a gerddi’n ail-agor heddiw ac mae’r llywodraeth wedi rhoi’r hawl i unigolion symud ychydig yn fwy o amgylch trefi a dinasoedd lle maen nhw’n byw.

Yn yr Eidal mae’r ail nifer fwyaf o bobl yn y byd wedi marw, ar ôl yr Unol Daleithiau.