Mae trigolion Gwlad y Basg yn gobeithio dychwelyd i normalrwydd yn dilyn “mis anodd” o ran y coronafeirws ym mis Mawrth, yn ôl meddyg sy’n gweithio yn Vitoria-Gasteiz.

Mae Joseba Fernandez de Retana yn gweithio fel meddyg pediatrig preswyl yn ysbyty AUO Txagoritxu, ac fe fu’n siarad â golwg360 wrth i Sbaen ddechrau llacio cyfyngiadau’r feirws.

Mae’n dweud bod Gwlad y Basg wedi cael “mis anodd” yn dilyn cynnydd sylweddol mewn achosion yn rhanbarth Araba.

Hyd at ddoe (dydd Sadwrn, Mai 2), roedd 22,667 o achosion wedi’u cadarnhau, gyda 1,791 o bobol wedi marw, ond roedd 14,160 o bobol hefyd wedi gwella.

Mae golwg360 wedi gweld graff sy’n dangos bod cyfradd yr achosion newydd yng Ngwlad y Basg yn dal i gynyddu, tra bo cyfradd y marwolaethau’n aros yn eithaf cyson dros y misoedd diwethaf.

Graff coronafeirws
Graff coronafeirws sy’n dangos cyfraddau marwolaeth (gwyrdd) ac achosion newydd (glas)

Darlun aneglur

Ond fel yng Nghymru, mae’r sefyllfa go iawn yn aneglur yn sgil diffyg profion.

“Mae bwlch mawr rhwng achosion positif a’r rhai sydd wedi gwella, fwy na thebyg oherwydd fod rhai pobol wedi profi’n bositif er nad oedd ganddyn nhw symptomau,” meddai.

“Dydy’r ystadegau ddim yn fanwl gywir oherwydd mae’n debygol fod llawer iawn mwy o bobol yn sâl ond sydd heb gael profion, felly dydyn nhw ddim yn cael eu hystyried.

“Taswn i’n crynhoi’r sefyllfa, byddwn i’n dweud bod Mawrth yn fis anodd.

“Roedd ffrwydrad o ran achosion yn rhanbarth Araba oedd wedi lledu i rannau eraill o Wlad y Basg.

“Roedd rhaid codi mwy o wlâu mewn unedau dwys yn yr ysbyty yn Vitoria Gasteiz, ac fe ddaeth gweithgarwch arferol yr ysbyty i ben.

“Roedd ysbytai yn ne Gwlad y Basg Sbaenaidd dan gymaint o bwysau nes bod rhaid i’r llywodraeth ddefnyddio gwestai fel ysbytai dros dro.

“Ond mae’n ymddangos erbyn ail hanner mis Ebrill fod y gyfradd o achosion difrifol o’r Covid wedi gostwng, a bod ysbytai yn ceisio dychwelyd i’w trefn arferol erbyn mis yma.

Llacio’r cyfyngiadau

Wrth i Sbaen baratoi i lacio’r cyfyngiadau dros y penwythnos, mae’n dweud eu bod nhw’n “eithaf llym”.

Yn ôl y papur newydd El País yn Sbaen, mae pobol wedi cael mynd allan i’r strydoedd am ymarfer corff am y tro cyntaf ers 48 o ddiwrnodau.

Fel rhan o lacio’r cyfyngiadau, gall pobol rhwng 14 a 70 oed fynd allan i gerdded neu seiclo rhwng 6yb a 10yb.

Ond does ganddyn nhw ddim hawl i gerdded ymhellach na chilomedr o’u cartrefi, ac mae’n rhaid iddyn nhw aros o fewn eu hardal leol i seiclo neu loncian.

Ond does dim rhaid i bobol sy’n byw mewn ardaloedd â llai na 5,000 o drigolion gadw at amserlen ar gyfer eu gweithgareddau.

“Mae’r cyfyngiadau wedi bod yn eithaf llym ar y boblogaeth, sydd ond wedi cael mynd allan i brynu bwyd yn y farchnad neu i’r fferyllfa,” meddai Joseba Fernandez de Retana.

“Nawr, ym mis Mai, mae’n ymddangos bod y gwahanol lywodraethau’n ceisio dychwelyd yn araf bach i fywyd arferol.

“Y penwythnos hwn yw’r tro cyntaf lle mae mynd allan i redeg neu seiclo wedi’i ganiatáu, ond dim ond am ychydig oriau.”