Mae dau o aelodau Queen, y gitarydd Brian May a’r drymiwr Roger Taylor, wedi recordio fersiwn newydd o glasur y band ‘We Are The Champions’ gyda’r canwr Adam Lambert.

Maen nhw wedi cydweithio dros y We, gan eu bod mewn lleoliadau gwahanol ym Mhrydain a Los Angeles, er mwyn creu fersiwn o’r enw newydd o’r enw ‘You Are The Champions’ .

Y ‘You’ yn nheitl y gân newydd yw gweithwyr allweddol a rheng flaen sy’n ganolog i’r frwydr yn erbyn Covid-19.

Merch drymiwr Queen ar y rheng flaen

Bydd yr arian sy’n cael ei godi drwy ail-recordio’r gân yn cael ei roi yng nghoffrau Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer delio gyda’r pandemig coronafeirws.

Ac mae drymiwr Queen yn arbennig o falch o gael helpu’r achos.

“Fel tad sydd â merch yn gweithio ar y rheng flaen, dw i’n ymwybodol o’r gwaith hanfodol maen nhw yn ei wneud pob dydd dros ein pobl a’n cymdeithas,” meddai Roger Taylor.

“Maen nhw’n hynod werthfawr, ac yn wir, y nhw yw’r pencampwyr.”