Mae Seland Newydd yn paratoi i lacio’r cyfyngiadau sydd wedi bod mewn grym yno i geisio rhwystro’r coronafeirws rhag lledaenu.

Mae pum achos newydd o’r coronafeirws yno heddiw (dydd Llun, Ebrill 27) ond dyw’r feirws heb ledaenu drwy gymunedau ac felly bydd busnesau yn cael ail-agor yn raddol.

Dywed Prif Weinidog y wlad Jacine Ardern fod y wlad wedi llwyddo i osgoi sefyllfa lle’r oedd y firws wedi lledaenu’n eang a bydd y wlad yn parhau i ddelio â’r ambell achos sydd yno.

O hanner nos heno (Ebrill 27), bydd busnesau penodol megis busnesau adeiladu yn cael ail agor, ond bydd rheolau ymbellhau cymdeithasol yn dal i fod mewn grym.

De Corea

Mae De Corea yn trafod ail agor ysgolion wrth i nifer yr achosion ostwng, gyda’r awdurdodau’n cyhoeddi bod 10 achos newydd yno heddiw.

Drwy ddefnyddio rhaglen profion a chwarantin, mae De Corea wedi llwyddo i arafu lledaeniad y feirws heb lockdown na gwahardd busnesau rhag agor.

Fodd bynnag, mae ysgolion wedi bod ynghau, gyda rhaglenni dysgu o bell yn cymryd eu lle.