Mae Canghellor yr Almaen yn galw am gydweithredu rhyngwladol i ddatblygu brechlyn yn erbyn y coronafeirws.

Wrth annerch senedd yr Almaen, dywedodd Angela Merkel fod gwyddonwyr yn yr Almaen yn brysur yn ymchwilio i’r feirws ond bod angen gweithredu ar raddfa fyd-eang.

“Nid rhywbeth cenedlaethol yw gwyddoniaeth ond rhywbeth sy’n gwasanaethu’r ddynoliaeth,” meddai.

“Pan gaiff meddyginiaeth neu frechlyn ei ddarganfod, ei brofi a’i ryddhau yn barod i’w ddefnyddio, rhaid iddo fod ar gael ledled y byd ac yn fforddiadwy i’r holl fyd.”

Yn wahanol i arlywydd America, Donald Trump, sy’n rhoi’r gorau i ariannu Sefydliad Iechyd y Byd, canmolodd Angela Merkel waith y Sefydliad yn erbyn y coronafeirws.

“I lywodraeth yr Almaen, dw i’n pwysleisio bod y WHO yn bartner anhepgor a’n bod ni’n eu cefnogi nhw,” meddai.

Daw ei hapêl wrth i’r Almaen gychwyn llacio rywfaint ar gyfyngiadau trwy ganiatáu siopau bach i agor, gan barhau gydag ymbelláu cymdeithasol.

Mae graddfa’r heintiadau newydd wedi arafu yn y wlad, ond rhybuddiodd Angela Merkel eu bod yn “dal i gerdded ar ia tenau”.

Apeliodd hefyd ar i bobl gofio henoed yr Almaen yn yr holl argyfwng:

“Y bobl 80 a 90 oed hyn a adeiladodd ein gwlad; nhw yw sail y ffyniant rydym yn byw ynddo’n awr,” meddai. “Nhw, yn union fel eu plant a’u hwyrion, yw’r Almaen, ac rydym yn ymladd y frwydr yn erbyn y feirws hwn drostyn nhw hefyd.”