Mae aelodaeth llyfrgelloedd ar-lein wedi cynyddu 300% ar draws Iwerddon ers dechrau’r pandemig coronafeirws.

Daw hyn wrth i fesurau ymbellhau cymdeithasol y Llywodraeth gadw pobl yn eu tai.

Mae llyfrau electronig a llyfrau sain yn gynyddol boblogaidd, gyda Llywodraeth Iwerddon yn dweud bod cynnydd aruthrol yn nefnydd gwasanaethau ar-lein yn ystod yr wythnosau diwethaf.

“Rydym wedi gweld cynnydd o 106% mewn defnydd o lyfrau electronig, a chynnydd o 66% yn y defnydd o lyfrau sain ers dechrau mis Mawrth,” meddai un o swyddogion y Llywodraeth, Liz Canavan.

“Ar ben hyn mae cynnydd o fwy na 300% wedi bod yn y nifer sy’n defnyddio llyfrgelloedd ar-lein drwy gydol Mawrth.

“Mae’n galonogol gwybod bod pobl yn cymryd mantais o wasanaethau cymunedol sydd ar gael i’w cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn.

“Mae darllen yn ffordd wych o ddiddanu eich hunain yn ogystal ag edrych ar ôl eich iechyd meddwl yn ystod yr argyfwng.”