Mae cyn-ddiplomydd blaenllaw o Ogledd Corea wedi ennill sedd yn etholiad seneddol De Corea.

Roedd Thae Yong Ho yn weinidog yn llysgenhadaeth Gogledd Corea Llundain cyn ffoi o’i wlad am Dde Corea gyda’i deulu yn 2016.

Mae o bellach wedi cael ei ethol yn Aelod Seneddol yn ardal fwyaf cefnog Seoul, Gangnam.

“Gweriniaeth Corea yw fy mamwlad. Gangnam yw fy nhref. Dwi’n diolch i chi am fy ethol i fel y ffoadur cyntaf o Ogledd Corea i ennill etholaeth,” meddai Thae Yong Ho mewn araith emosiynol.

Roedd dagrau yn llifo lawr ei wyneb wrth iddo ddechrau canu anthem De Corea gyda’i gefnogwyr.

Mae’n aelod o’r United Future Party, sydd wedi galw am safiad caletach ar uchelgais niwclear Gogledd Corea yn ogystal â’u camdriniaeth hawliau dynol.

Nid Gogledd Corea oedd prif bwnc etholiad dydd Mercher (Ebrill 15), a gafodd ei gysgodi gan y pandemig coronafeirws.

Enillodd Blaid Ddemocrataidd, sy’n awyddus i wella perthynas y wlad gyda Gogledd Corea, fuddugoliaeth ysgubol yn yr etholiad.

Mae Gogledd Corea wedi galw Thae Yong Ho yn “faw isa’r domen” a’i gyhuddo o ddwyn arian y llywodraeth yn ogystal â throseddau eraill.