Mae disgwyl i Barack Obama gyhoeddi fideo yn rhoi ei gefnogaeth i Joe Biden yn ras arlywyddol yr Unol Daleithiau.

Joe Biden oedd dirprwy’r cyn-arlywydd am ddau dymor, ac mae cyfeillgarwch y ddau wedi bod yn destun cryn sylw yn ystod yr ymgyrch, wrth i’r ymgeisydd bwysleisio ei fod e’n awyddus i barhau â gwaith Barack Obama pe bai’n cael ei ethol i olynu Donald Trump.

Yn ôl Joe Biden, mae e’n sefyll ar sail “pact Obama-Biden”, ac mae’r ddau wedi bod yn sgwrsio’n gyson yn ystod yr ymgyrch.

Dyw Barack Obama ddim wedi ymyrryd ryw lawer yn yr ymgyrch Ddemocrataidd, gan ddweud ei fod yn barod i roi cyngor i unrhyw un oedd am sefyll yn enw’r blaid.

Ond daw ei gefnogaeth i Joe Biden dipyn gynt nag y gwnaeth yn ystod ymgyrch Hillary Clinton yn 2016, wrth iddi hithau frwydro yn erbyn Bernie Sanders.

Mae Bernie Sanders bellach wedi tynnu’n ôl o’r ras ddiweddaraf, gan roi ei gefnogaeth i Joe Biden.

Elizabeth Warren yw’r unig ddarpar ymgeisydd i beidio â datgan ei chefnogaeth i Joe Biden, ond mae disgwyl iddi wneud hynny dros y dyddiau nesaf.

Ac mae disgwyl i Hillary a Bill Clinton ddatgan eu cefnogaeth hwythau iddo hefyd.