Mae stormydd wedi taro rhannau deheuol yr Unol Daleithiau, gan ladd chwech o bobol yn ne Mississippi a difrodi cannoedd o gartrefi yn Louisiana.

Mae rhybuddion yn eu lle am lifogydd, corwynt a stormydd pellach ac fe allai’r tywydd garw gyrraedd talaith Alabama.

Mae argyfwng wedi’i gyhoeddi ym Mississippi.

Mae disgwyl i’r stormydd symud ar draws y de-ddwyrain a chanol yr Unol Daleithiau yn ystod y dydd heddiw (dydd Llun, Ebrill 13).

Mae oddeutu 750,000 o bobol heb drydan mewn deg talaith o Tecsas i Georgia ac i fyny i Orllewin Virginia, ac mae coed wedi cwympo a strydoedd yn gorlifo yn Alabama, Tennessee a Georgia.